top of page

Swyddog Sgiliau

Cymraeg

Welsh Skills Officer

hero.png

Cyfrifoldebau

Dw i'n annog plant a staff i ddefnyddio'r Gymraeg wrth wneud pethau gwahanol trwy gydol y dydd.

Dw i'n sicrhau bod pob dosbarth yn defnyddio'r arddangosfa 'Cymraeg ar dy dafod' i siarad mwy o Gymraeg yn y dosbarth.

Dw i'n sicrhau bod gan bob dosbarth Helpwr Heddiw dyddiol, Ninja Cymraeg neu Capten Cymraeg.

Dw i'n rhedeg Caffi Cymraeg misol  i roi cyfle i eraill sgwrsio yn Gymraeg. Rwy'n dewis thema ac yn dewis cardiau sgwrsio a gemau.

Dw i'n penderfynu ar weithgareddau ar gyfer yr amserlen wythnosol, e.e. Gorsaf gemau, sesiynau HIIT a  Ioga, clwb apiau Cymraeg, gemau pêl-droed Cymraeg, gemau iard ac ati.

Dw i'n hyfforddi'r Siwpyr Criw Cymraeg i gyflwyno gweithgareddau yn Gymraeg.

Dw i'n trefnu amserlen o weithgareddau Cymraeg yn ystod amser egwyl ac amser cinio yn ystod yr wythnos i blant a staff fwynhau defnyddio'r Gymraeg.

Dw i'n adolygu ac yn gwneud newidiadau i'r amserlen gweithgareddau pan fo angen.

Dw i'n sicrhau bod holl aelodau'r Siwpyr Criw yn gwybod pa sesiynau maent yn eu cyflwyno bob wythnos.

Dw i'n cefnogi'r Siwpyr Criw Cymraeg i redeg rhai sesiynau.

Dw i'n sicrhau bod cyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio'r Gymraeg o amgylch yr ysgol, ee yn y siop ffrwythau, yn y neuadd ginio, yn y clwb brecwast trwy greu posteri a hyfforddi'r staff a'r disgyblion.

Dw i'n creu bocsys Cymraeg i'r clwb brecwast.

Dw i'n rhedeg gwersi 'pop up' Cymraeg i helpu plant i ddysgu Cymraeg.

Dw i'n creu ardaloedd i annog pobl i siarad Cymraeg e.e. cornel drafod gyda gwahanol gwestiynau a dadleuon.

Dw i'n rhedeg archwiliadau misol i weld faint o Gymraeg sy'n cael ei siarad o gwmpas yr ysgol.

Dw i'n gweithio gyda chydlynydd y Gymraeg i anfon pethau gartref i annog pobl i siarad Cymraeg gartref.

Dw i'n gwneud dysgu Cymraeg yn hwyl ac yn dangos ei bod hi'n bosibl defnyddio'r Gymraeg mewn llawer o weithgareddau trwy gydol y dydd.

Responsibilities

I encourage children and staff to use Welsh whilst doing different things throughout the day.

I make sure that every class is using the ‘Cymraeg ar dy dafod’ display to speak more Welsh in class.

I make sure that every class has a daily Helpwr Heddiw, Ninja Cymraeg or Capten Cymraeg.

I run a monthly Welsh cafe to give others the opportunity to chat in Welsh. I choose a theme and choose chat cards and games.

I decide on activities for the weekly timetable e.g. Games station, Welsh Hiit and yoga sessions, Welsh app club, Welsh football games, Welsh yard games etc.

I train the Siwpyr Criw Cymraeg to deliver activities in Welsh.

I arrange a timetable of Welsh activities at break times and lunchtimes during the week for children and staff to enjoy using Welsh.

I revise and make changes to the activities timetable when needed.

I ensure that all members of the Siwpyr Criw Cymraeg know which sessions they are delivering every week.

I support the Siwpyr Criw Cymraeg to run some sessions.

I ensure that there are opportunities for pupils to use Welsh around school e.g. in the fruit shop, in the dinner hall, in the breakfast club by creating posters and training the staff and pupils.

I create breakfast club Welsh boxes.

I run Welsh pop up, pop in lessons to help children learn Welsh.

I create areas to encourage people to speak Welsh e.g. discussion corner with different questions and debates.

I run monthly Welsh language health checks to see how much Welsh is spoken around the school.

I work with the Welsh coordinator to send things home to encourage people to speak welsh at home.

I make learning Welsh fun and show that it’s possible to use Welsh in lots of activities throughout the day.

Fy swydd

My job

Dw i'n gwneud dysgu Cymraeg yn hwyl ac yn dangos ei bod hi'n bosibl defnyddio'r Gymraeg mewn llawer o weithgareddau trwy gydol y dydd.

​

I make learning Welsh fun and show that it’s possible to use Welsh in lots of activities throughout the day.

bottom of page