Miwsig
Music
Carioci gyda 'Mei Gwynedd'
'Pethau Bychain'
Mei Gwynedd
Cawsom draethau aur, mynyddoedd a bryniau mwyn
Lle mae nentydd pur yn canu rhwng y brwyn;
Cawsom yr iaith Gymraeg i’w meithrin a’i chadw’n iach,
Felly, frodyr a chwiorydd, gyda’n gilydd gwnawn y pethau bach.
Cytgan
Maen nhw’n ein clywed dros y sir,
Maen nhw’n ein clywed dros y ffiniau,
Maen nhw’n ein clywed ni ym mhen draw’r byd
Yn gwneud y pethau bychain nawr.
Mae rhai yn byw'n y wlad ac eraill yn y dre,
A’r hyn sy’n 'huno ni yw bod ni’n siarad iaith y ne;
Mae gwahanol ddywediadau, rhai wrth ein boddau a rhai sy’n flin,
Ond dim ond un ffordd sydd i ddweud ‘Dwi’n dy garu di’.
Cytgan
Maen nhw’n ein clywed dros y sir ...
Nawr yw ein hamser ni,
Cryfhawn drwy eiriau Dewi
Ledled Cymru, canwn oll yn llon.
Ry’ ni’n eu gwneud nhw bob dydd,
Yn gwneud y pethau bychain nawr.